Lleoliad:
Virtual via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Mehefin 2023
Amser:
09.02 -
09.32
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Bethan Davies, Pennaeth y Siambr a Gwasanaeth Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
·
Datganiad gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ymateb y
llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (30
munud) -Gohiriwyd tan
11 Gorffennaf
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (30 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.55pm.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn talu teyrnged i gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Arglwydd John Morris, ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn a bydd hefyd yn gwahodd y Prif Weinidog i roi teyrnged.
Dydd Mercher
Trafododd y Pwyllgor Busnes unwaith eto yr arfer sydd gan grwpiau’r gwrthbleidiau o gyflwyno dau gynnig i'w trafod yn ystod un bloc o amser wedi’i neilltuo, yng ngoleuni pwnc y cynigion a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig i'w trafod ddydd Mercher 7 Mehefin. Nododd y Llywydd bod posibilrwydd y byddai galw mawr am amser siarad a dywedodd y byddai'n ceisio sicrhau cydbwysedd priodol i ganiatau i bawb allu rhoi barn yn ystod y ddadl. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa Aelodau eu grwpiau bod yr amser a ganiateir ar gyfer cyfraniadau unigol yn cael ei gyfyngu yn ystod dadleuon a drefnir am 30 munud.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 13 Mehefin 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid, 19-25 Mehefin – Tosturi (30 munud) – wedi’i ddwyn ymlaen o 20 Mehefin
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) – gohiriwyd
· Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddaieth (Cymru) (5 munud)
Dydd Mawrth 20 Mehefin 2023
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllunio’r Gaeaf ar gyfer Firysau
Anadlol (30 munud) – cyhoeddir fel datganiad ysgrifenedig
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Iechyd Meddwl a Lleisaint Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol: Lansio 111 pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl brys
(30 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid
– Tosturi – wedi’i ddwyn ymlaen i 13 Mehefin
· Dadl: Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (90 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan y Pwyllgor Deisebau yn gofyn am ddadleuon ar dair deiseb sydd wedi cael dros 10,000 o lofnodion:
· P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod
· P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol
· P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadleuon ar y tair deiseb ac, yn benodol, i ddarparu ar gyfer y ddadl ar ddeiseb P-06-1340 cyn toriad yr haf oherwydd bod y weithred y mae'n galw amdani yn sensitif o ran amser, ac i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1337 ddydd Mercher 13 Medi i gyd-fynd â diwrnod Owain Glyndŵr ar 16 Medi. Bydd dadl ar P-06-1332 yn cael ei threfnu yn ystod tymor yr hydref.
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 28 Mehefin 2023 -
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynigion canlynol i gael eu trafod:
14 Mehefin:
Hefin David
NNDM8275
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd iddynt.
2. Yn nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai mwyaf bregus.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod angen gwneud mwy.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni, a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod.
5 Gorffennaf:
Luke Fletcher
NNDM8273
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;
b) bod 11.5 o nyrsys arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n cyfateb i gymhareb o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;
c) bod adroddiad Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs arbenigol epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol epilepsi yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi;
b) cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.
Adroddiad Argymhellion Grŵp Adolygu Arbenigol Allanol Niwrowyddoniaeth Cymru ar gyfer Canolbarth a De Cymru
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol presennol a chytunodd i:
4.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch amserlen y Bil Seilwaith (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar amserlen y Bil Seilwaith (Cymru).
Nododd y Pwyllgor gais y Pwyllgor fod y Llywodraeth yn ystyried ymrwymiadau gwaith craffu deddfwriaethol presennol y Pwyllgor wrth gynnig amserlen ar gyfer Bil ar Ddiogelwch Tomenni Segur, os cyflwynir un yn ystod trydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol
4.3 Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr, a fyddai'n cael ei gysylltu ag agenda'r Cyfarfod Llawn i helpu i lywio'r ddadl ar y Memorandwm Atodol y prynhawn hwnnw.
5 Amserlen y Senedd
5.1 Dyddiadau Toriadau
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig 2023, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a’r Pasg 2024. Y rhain yw:
Toriad |
Dyddiadau |
Hanner Tymor y Sulgwyn
|
Dydd Llun 29 Mai 2023 - dydd Sul 4 Mehefin 2023 |
Toriad yr Haf |
Dydd Llun 17 Gorffennaf 2023 – Dydd Sul 10 Medi 2023 |
Hanner Tymor yr Hydref
|
Dydd Llun 30 Hydref 2023 – dydd Sul 5 Tachwedd 2023 |
Toriad y Nadolig
|
Dydd Llun 18 Rhagfyr 2023 - Dydd Sul 7 Ionawr 2024 |
*Hanner Tymor y Gwanwyn |
Dydd Llun 12 Chwefror 2024 - Dydd Sul 18 Chwefror 2024 |
*Toriad y Pasg |
Dydd Llun 25 Mawrth 2024 - Dydd Sul 14 Ebrill 2024 |
*Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
6 Ymgysylltu ag Ewrop
6.1 Gohebiaeth am Gyngres Cyngor Ewrop
Trafododd y Pwyllgor Busnes fater parhaus enwebiadau'r Senedd ar gyfer cynrychiolwyr ar Gyngres Cyngor Ewrop, gan nodi’r gwahaniaeth barn rhwng grwpiau pleidiau o ran enwebiadau, a chytunodd y byddai’n dychwelyd at benderfyniad terfynol ar y mater yn y cyfarfod dilynol.